Consortiwm rhwng Barod, Kaleidoscope a Hafal yng Ngwent

Partneriaeth gyda New Link a Gofal yng Nghwm Taf (16-24 oed yn unig)

 

Mae mentoriaid cymheiriaid Cyfle Cymru yn helpu pobl i feithrin hyder, ac maent yn darparu cymorth er mwyn manteisio ar hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith.

Rydym yn helpu pobl sy’n cael eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau a/neu gyflyrau iechyd meddwl i feithrin y sgiliau angenrheidiol er mwyn ymuno â byd gwaith

Mae’n mentoriaid cymheiriaid yn manteisio ar eu profiad nhw o gamddefnyddio sylweddau, adfer, a/neu gyflyrau iechyd meddwl. Maent yn deall eich sefyllfa ac maent yn gallu bod yno gyda chi pan fyddwch yn wynebu profiadau newydd.

Mae’n harbenigedd ym maes triniaeth ac adfer yn golygu y gallwch ymddiried ynom ni i’ch helpu chi i wneud y penderfyniadau cywir.

  • mynediad i gymwysterau a hyfforddiant
  • cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymunedy
  • profiad gwaith go iawn/li>
  • help i chwilio am swyddi ac ymgeisio am swyddi
  • • cymorth parhaus ar ôl i chi ddechrau gweithio, hyfforddi neu gael addysg, er mwyn eich helpu i setlon

 

Gallwn gynorthwyo unigolion:

  • sy’n 16 i 24 oed a heb fod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
  • sy’n 25 oed neu’n hŷn ac wedi bod yn ddi-waith neu’n anweithredol yn economaidd am gyfnod hir
  • sy’n gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau a/neu ddioddef problemau iechyd meddwl

Am ragor o wybodaeth, trowch at y dudalen we

Neu cysylltwch â ni ar 01633 258489 ar gyfer Gwent

Neu cysylltwch â DASPA ar 0300 333 0000 ar gyfer y Gwasanaeth i Bobl Ifanc yng Nghwm Taf