Mae Gwent N-Gage, y gwasanaeth i bobl ifanc yng Ngwent, yn darparu cymorth i bobl ifanc a’u teuluoedd, ac ar gyfer y gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw.

I BOBL IFANC A’U TEULUOEDD:

  • Cymorth arbenigol un i un ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio sylweddau, ac ar gyfer eu hanwyliaid
  • Cymorth arbenigol un i un ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio sylweddau ac y mae ganddynt broblemau iechyd meddwl
  • Gweithio gyda theuluoedd er mwyn eu helpu i ddeall, ymateb i ac ymdopi gyda defnydd sylweddau aelodau ifanc eu teulu
  • Gweithdai a sesiynau codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol
  • Gwaith ar wahân â ffocws gyda phobl ifanc yn y gymuned
  • Addysg gan gymheiriaid a hyfforddiant achrededig i bobl ifanc

AR GYFER GWEITHWYR PROFFESIYNOL:

Tair lefel o hyfforddiant am ddim,

sy’n cynnwys:

  • Ymwybyddiaeth o gamddefnyddio sylweddau;
  • Sgrinio am ddefnydd pobl ifanc o sylweddau ac
  • Ymateb i a gweithio gyda phobl ifanc sy’n defnyddio sylweddau
  • Defnyddio sylweddau a datblygiad pobl ifanc yn eu harddegau
  • Sylweddau Seicoweithredol newydd

Un rhif Cyswllt ar gyfer cyfeiriadau a gwybodaeth:  0333 3202751

Am ragor o wybodaeth, trowch at dudalen N-gage ar wefan Choices  YMA