Un rhif Cyswllt: 03303 639 997

confidential@d-das.co.uk

 

Mae GCAD yn wasanaeth consortiwm integredig dan arweiniad Barod, a gynorthwyir gan Kaleidoscope a G4S. GCAD yw’r pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw oedolyn dros 18 oed sydd â phroblem alcohol neu gyffuriau yn ardal Dyfed. Mae GCAD yn gweithio ar draws siroedd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, ac rydym yn cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth sydd â phroblemau cyffuriau a/neu alcohol eu hunain neu y maent yn pryderu am ddefnydd rhywun arall o gyffuriau a/neu alcohol.

Rydym yn cynnig asesiad cychwynnol, yn darparu ymyriadau byr (gan gynnwys DBST, cyfleuster cyfnewid nodwyddau a hyfforddiant a gwasanaeth rhoi Naloxone), ymyriadau ar ffurf triniaeth arbenigol am gyfnod penodedig a gwasanaeth ôl-ofal ac adfer. Mae gennym wasanaeth Cyfiawnder Troseddol arbenigol sy’n cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth sy’n destun gorchmynion cymunedol a gweithiwr cyswllt carchar arbenigol sy’n cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth i integreiddio’n ôl i fywyd cymunedol ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar.

Yn ogystal, mae GCAD yn darparu hyfforddiant i unrhyw weithiwr proffesiynol yn ardal Dyfed ynghylch camddefnyddio sylweddau a materion cysylltiedig megis Sylweddau Seicoweithredol Newydd (NPS), Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd (IPED) a Chymorth Cyntaf ar gyfer Gorddos. Yn ogystal, mae GCAD yn hapus i deilwra pecynnau hyfforddiant pwrpasol yn unol ag anghenion staffio a sefydliadol unigol. Yn ogystal â darparu hyfforddiant, rydym yn cynnal ymgyrchoedd sy’n seiliedig ar negeseuon hyrwyddo iechyd yn rheolaidd ac yn aml, byddwn yn bresennol yn ystod digwyddiadau yr economi gyda’r hwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau, ond hefyd, er mwyn codi ymwybyddiaeth o wybodaeth a allai effeithio ar ddefnyddwyr ein gwasanaeth.