Mae Gwent N-Gage, y gwasanaeth i bobl ifanc yng Ngwent, yn darparu cymorth i bobl ifanc a’u teuluoedd, ac ar gyfer y gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw.
I BOBL IFANC A’U TEULUOEDD:
- Cymorth arbenigol un i un ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio sylweddau, ac ar gyfer eu hanwyliaid
 - Cymorth arbenigol un i un ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio sylweddau ac y mae ganddynt broblemau iechyd meddwl
 - Gweithio gyda theuluoedd er mwyn eu helpu i ddeall, ymateb i ac ymdopi gyda defnydd sylweddau aelodau ifanc eu teulu
 - Gweithdai a sesiynau codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol
 - Gwaith ar wahân â ffocws gyda phobl ifanc yn y gymuned
 - Addysg gan gymheiriaid a hyfforddiant achrededig i bobl ifanc
 
AR GYFER GWEITHWYR PROFFESIYNOL:
Tair lefel o hyfforddiant am ddim,
sy’n cynnwys:
- Ymwybyddiaeth o gamddefnyddio sylweddau;
 - Sgrinio am ddefnydd pobl ifanc o sylweddau ac
 - Ymateb i a gweithio gyda phobl ifanc sy’n defnyddio sylweddau
 - Defnyddio sylweddau a datblygiad pobl ifanc yn eu harddegau
 - Sylweddau Seicoweithredol newydd
 
Un rhif Cyswllt ar gyfer cyfeiriadau a gwybodaeth: 0333 3202751
Am ragor o wybodaeth, trowch at dudalen N-gage ar wefan Choices YMA