Ystyrir yn eang bod sefydlu cynlluniau cyfnewid nodwyddau ar draws y DU yn y 1980au yn un o’n mentrau mwyaf llwyddiannus er mwyn hyrwyddo iechyd a lleihau niwed.
Mae cyfnewid nodwyddau yn rhan hanfodol o’r gwaith a wnawn er mwyn lleihau’r niwed a achosir gan ddefnyddio sylweddau. Mae’n lle tawel a chyfrinachol lle y gall defnyddwyr gwasanaeth gael cymorth a chyngor, yn ogystal ag offer glân a diogel.
Mae gwasanaethau cyfnewid nodwyddau wastad yn gyfrinachol. Bydd staff yn gofyn am rywfaint o wybodaeth sylfaenol, a gofnodir mewn cronfa ddata o’r enw NEO, lle y bydd y data yn ddienw. Defnyddir y wybodaeth hon er mwyn nodi patrymau neu dueddiadau defnyddio a’r offer a ddefnyddir, yn ogystal â gwybodaeth ynghylch cyfeirio i wasanaethau eraill. Ni rennir enwau neu wybodaeth adnabyddadwy arall.
Ble mae ein cyfleusterau cyfnewid nodwyddau?
Mae Barod yn darparu gwasanaethau cyfnewid nodwyddau yn ystod oriau gwaith arferol yn ei leoliadau
yn:
- Abertawe/li>
- Caerffili
- Merthyr Tudful
- Y Coed-duon
- Glynebwy
- Llanelli
- Aberystwyth
- Hwlffordd/li>
- Bws Lleihau Niwed Dyfed
Rydym yn nodi cyfeiriadau fferyllfeydd sy’n cynnig cyfleuster cyfnewid nodwyddau mewn man amlwg ar ddrysau ein gwasanaethau
Pwy fyddwn yn eu cyflenwi yn ein cynllun cyfnewid nodwyddau?
Rydym yn darparu ystod lawn o daflenni ac offer, gan gynnwys:
- Codenni Fitamin C
- Codenni Sitrig
- Condomau
- Stericups/Cwcerau/li>
- Nodwyddau a chwibolau o feintiau amrywiol
- Adnoddau ysgrifenedig/taflenni gwybodaeth gan gynnwys y rhai ar gyfer defnyddwyr Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd (IPEDS
- Ffoil er mwyn annog defnyddwyr sy’n chwistrellu heroin i newid y ffordd y maent yn ei gymryd, i ysmygu
- Ampylau dŵr /li>
- Biniau offer miniog er mwyn gwaredu’r holl offer yn ddiogel
Mae gweithgarwch cyfnewid nodwyddau yn gyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth nad ydynt yn cael cyswllt gydag unrhyw wasanaethau eraill efallai, i ymgysylltu mewn ffordd uniongyrchol â gweithwyr cyffuriau arbenigol am faterion dwys ynghylch eu harferion chwistrellu, safleoedd chwistrellu a’u hiechyd cyffredinol.
Mae’r holl staff sy’n darparu gwasanaethau cyfnewid nodwyddau wedi cael eu hyfforddi ac maent yn gymwys ym maes cynnig cyngor ynghylch chwistrellu mwy diogel, ac maent yn manteisio ar y cyfle i ymgysylltu â defnyddwyr sy’n chwistrellu cyffuriau. Yn ogystal, rydym yn annog pobl i ddychwelyd offer a ddefnyddiwyd mewn ffordd ddiogel, gan ddarparu biniau offer miniog i bob unigolyn sy’n defnyddio’r cyfleuster cyfnewid nodwyddau.
Mae Barod yn aelod o Fforwm Cyfnewid Nodwyddau Cymru. Rydym yn gweithio yn unol ag arfer wedi’i seilio ar dystiolaeth, gan gynnwys canllawiau NICE wedi’u diweddaru, fframwaith trin Llywodraeth Cymru a’n Polisi Cyfnewid Nodwyddau mewnol.
Trowch at ein fideo Byw ar Facebook isod, , sy’n eich tywys o gwmpas un o’n cyfleusterau cyfnewid nodwyddau