Mae Barod yn falch o gyhoeddi cystadleuaeth gyntaf Gwobr Gelf Mike Parry.
Roedd Mike yn un o’n cydweithwyr a fu farw yn anffodus ym mis Ionawr 2019. Roedd yn artist dawnus, ond roedd hefyd yn athro celf gwych. Gweithiodd yn ddiflino gyda’n defnyddwyr gwasanaeth i ddod o hyd i’w Picasso, Van Gogh neu Pollock mewnol ac i’w galluogi i ddefnyddio Celf fel ffordd o wneud newidiadau cadarnhaol, cynyddu eu hyder a gwella eu hiechyd a’u lles.
Os ydych chi wedi bod mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, yn y gorffennol neu ar hyn o bryd mewn unrhyw le yng Nghymru, gallwch gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Bydd angen arnoch chi gyflwyno darn o Gelf gyda’r thema ‘Beth mae adferiad yn ei olygu i mi ‘.
Byddwn yn derbyn pob math o gelf, o baentiadau a darluniau i gerfluniau a ffotograffiaeth neu farddoniaeth.
Bydd gwobr am y cais buddugol a bydd pob cais yn rhan o arddangosfa yn yr Hydref 2019.
I gofrestru, llenwch y ffurflen gais isod a’i hanfonwch, gyda’ch llun o’ch gwaith, at info@barod.cymru, erbyn canol nos ar 1af Medi 2019
Gweler y Telerau ac Amodau isod am fwy o wybodaeth