Mae Barod yn falch o gyhoeddi cystadleuaeth gyntaf Gwobr Gelf Mike Parry.

Barod are pleased to announce the first Mike Parry Art Award competition.

Roedd Mike yn un o’n cydweithwyr a fu farw yn anffodus ym mis Ionawr 2019. Roedd yn artist dawnus, ond roedd hefyd yn athro celf gwych. Gweithiodd yn ddiflino gyda’n defnyddwyr gwasanaeth i ddod o hyd i’w Picasso, Van Gogh neu Pollock mewnol ac i’w galluogi i ddefnyddio Celf fel ffordd o wneud newidiadau cadarnhaol, cynyddu eu hyder a gwella eu hiechyd a’u lles.

Mike was one of our colleagues who sadly passed away in January 2019. He was a gifted artist, but he was also a wonderful art teacher. He worked tirelessly with our service users to find their inner Picasso, Van Gogh or Pollock and to enable them to use Art as a way to making positive changes, increase their confidence and improve their health and wellbeing.

Click here to visit the page for more information on the award and how to enter