Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Arbenigol i Bobl Ifanc yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin – mae’n gweithio gyda phobl ifanc 18 oed ac iau ac unigolion eraill sy’n pryderu amdanynt.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig:
- Cymorth arbenigol un i un i bobl ifanc sy’n defnyddio sylweddau, gan gynnwys asesiad cynhwysfawr, ymyriadau byr a gweithgarwch cynllunio gofal
- Gweithio gyda theuluoedd er mwyn eu helpu i ddeall, ymateb i ac ymdopi gydag arferion defnyddio sylweddau aelodau ifanc eu teulu
- Gweithdai a sesiynau codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol
- Addysg gan gymheiriaid a hyfforddiant achrededig i bobl ifanc
- Ymgyrchoedd Bws Allgymorth/li>
I WEITHWYR PROFFESIYNOL:
Hyfforddiant ar draws pob SCWDP y Cynghorau Sir bob chwarter ar y cyd â chydweithwyr o GCAD a hyfforddiant/gweithdai pwrpasol pan ofynnir amdanynt, sy’n rhoi sylw i’r canlynol
- Camddefnyddio Sylweddau 1011
- Datblygiad pobl ifanc yn eu harddegau a chamddefnyddio sylweddau
- Gweithdai canabis
- Gweithdai alcohol
- Cymorth cyntaf ar gyfer gorddos
Un rhif Cyswllt ar gyfer cyfeiriadau, 01554 755779