Croeso i wasanaeth Barod Clicio a Dosbarthu Naloxone. Mae Naloxone yn feddyginiaeth achub bywyd a all wyrdroi effeithiau gorddos opioid dros dro, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â heroin, methadon, morffin, buprenorffin a chodin. Gall weithio o fewn pum munud i'w weini a gall bara rhwng 20 a 40 munud. Mae'n hanfodol bod unrhyw un sy'n profi gorddos yn ennill cymorth meddygol, felly mae angen i chi ffonio 999 a gofyn am ambiwlans ar unwaith.
Os nad ydych wedi ymgymryd ag ymwybyddiaeth gorddos a hyfforddiant naloxone o'r blaen, neu os nad ydych wedi gwneud hynny ers amser maith, byddem yn argymell yn gryf eich bod yn cwblhau ein hyfforddiant ar-lein cyn llenwi'r ffurflen isod a gwneud cais am Becyn Naloxone i'w ddefnyddio gartref. I gael mynediad at yr hyfforddiant ar-lein rhad ac am ddim hwn, cliciwch yma.
I archebu'ch citiau naloxone, llenwch y ffurflen isod. Byddwch yn derbyn dau git, ynghyd ag amrywiaeth o adnoddau cysylltiedig â lleihau niwed, a fydd yn cyrraedd y cyfeiriad a ddarperir mewn pecynnau plaen. Caiff y wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn gyfrinachol a ni rennir am bwrpasau marchnata.