Mae DASPA yn un pwynt mynediad er mwyn cael cyngor, gwybodaeth a llwybr hawdd i wasanaethau ar gyfer y rhai sy’n cael eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau yn ardal Cwm Taf.
Mae’r Pwynt Mynediad Unigol ar gyfer Alcohol a Chyffuriau (DASPA) yn cynnig mynediad hawdd i ddefnyddwyr gwasanaeth, aelodau teuluol, unigolion eraill sy’n pryderu a gweithwyr proffesiynol, er mwyn iddynt gael cyngor neu wneud cyfeiriad i’r holl wasanaethau camddefnyddio sylweddau ar draws Cwm Taf, gan gynnwys TEDS, Barod, Timau Alcohol a Chyffuriau Cymunedol a Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Integredig y Rhondda (GCSIR).
Ffôn: 0300 333 0000 (am ddim o linellau tir, cyfradd galwad leol o ffonau symudol)
Trowch at y wefan
E-bost: daspa@daspa.org.uk