Rydym yn cynorthwyo unigolion 11-25 oed yn Ninas a Sir Abertawe sy’n dymuno cael cymorth ar gyfer eu harferion defnyddio sylweddau eu hunain neu os byddant wedi cael eu heffeithio gan arferion defnyddio sylweddau rhywun arall.

Mae gennym raglen PSE strwythuredig a ddarparir yn yr holl ysgolion Cyfun yn yr Awdurdod Lleol ac mewn darpariaethau addysg amgen / darparwyr addysg eraill.

Mae gennym aelod o staff sydd wedi cael eu neilltuo i’r Tîm Troseddau Ieuenctid.

Rydym yn darparu cyfleuster galw heibio yn Info-Nation bob prynhawn dydd Iau rhwng 12:30pm a 4:30pm, gan gynnig gwybodaeth a gweithgareddau wedi’u seilio ar wahanol thema bob mis

 

Choices Abertawe

Info Nation

47 The Kingsway

Abertawe

SA1 5HG

 

Cysylltwch â ni ar 01792 472002